Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2016
Amser: 09.01 -
09.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3349
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Lindsay Whittle AC (yn lle Bethan Jenkins AC) Joyce Watson AC |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF102KB) Gweld fel HTML (80KB).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins.
Dirprwyodd Lindsay Whittle ar ran Bethan Jenkins yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am gwestiynau manwl y deisebydd, ac yn arbennig, pam nad oes camau'n cael eu cymryd ar unwaith i gyflwyno sgrinio, o gofio bod Treial Cydweithredol y DU o Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKCTOCS) wedi dangos y gallai prawf gwaed blynyddol helpu i leihau'r nifer o fenywod sy'n marw o ganser o tua 20%; ac
· argymell bod y Pwyllgor newydd yn ystyried gwneud darn byr o waith ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i'w chau. Wrth wneud hynny, ystyriwyd y ffaith bod y Cynulliad ond newydd basio Deddf Tai (Cymru) 2014 ac nad yw wedi cael ei rhoi ar waith yn llawn eto.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a:
· chroesawodd yr ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a
· chytunodd i aros am ymateb y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb ymhellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:
· gau'r ddeiseb o ystyried na ddylai fod wedi cael ei chyfrif yn dderbyniol adeg ei chyflwyno oherwydd yr ymddengys nad oes gan y Cynulliad y pŵer i weithredu'r ddeiseb; ac
· wrth ysgrifennu at y deisebydd, cynnwys linc i'r trawsgrifiad o ddadl y Cyfarfod Llawn ar y mater a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2014.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
· Gomisiynydd y Gymraeg a'r Prif Weinidog i ofyn am eu barn am sylwadau'r deisebydd;
· y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi cymryd tystiolaeth lafar yn ddiweddar gan y Comisiynydd ynghylch y pwynt hwn, i ofyn iddo ystyried sylwadau'r deisebwyr yn dilyn y sesiwn dystiolaeth honno a'r amserlen ar gyfer cwblhau eu gwaith ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog a'i hystyried bryd hynny, ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn eu barn ar y gwahaniaeth sydd i'w weld o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr;
· disgwyl yr ymateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain; a
· gofyn am nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn nodi'r gwahaniaeth o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael sylwadau'r deisebydd am lythyr y Gweinidog cyn trafod y ddeiseb eto.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai deisebau'n cael eu gadael yn agored i'r Pwyllgor newydd eu trafod yn y Pumed Cynulliad.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried rhestr o ddeisebau segur, gyda'r posibilrwydd o'u cau mewn cyfarfod yn y dyfodol.